Lleoliad:
External
Dyddiad: Dydd Llun, 4 Mai 2020
Amser:
14.53 -
15.28
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
David Rees AS (Cadeirydd) Alun Davies AS Huw Irranca-Davies AS Dai Lloyd AS David Melding AS |
Staff y Pwyllgor: |
Alun Davidson (Clerc) Rhys Morgan (Ail Glerc) Claire Fiddes (Dirprwy Glerc) Aled Evans (Cynghorydd Cyfreithiol) Nia Moss (Ymchwilydd) Sara Moran (Ymchwilydd) |
0.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
0.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan Mandy Jones.
0.3 Datganodd Huw Irranca-Davies fuddiant fel Cadeirydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop, Cadeirydd Pwyllgor Monitro Rhaglenni Cymru a Chadeirydd y Grŵp Llywio Buddsoddi Rhanbarthol.
1.1 Cytunodd yr aelodau i newid arferion gwaith y Pwyllgor, er mwyn hwyluso trefniadau gweithio o bell.
2.1 Cytunodd y Pwyllgor i addasu’r modd y mae’n ymdrin â’r ffrwd waith hon o ystyried yr amgylchiadau presennol.
3.1 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i ofyn am ragor o wybodaeth am y Bil Masnach.
4.1 Trafododd yr Aelodau gytundeb rhyngwladol yn ymwneud â Chyngor Ewrop: Confensiwn ar Gyd-gynhyrchu Sinematig.
4.2 Cytunodd yr Aelodau i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i ofyn am ragor o wybodaeth am y cytundeb.
5.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth.